Yn bresennol: - Rhun ap Iorwerth AS - Hefin David AS - Lynne Kelly (Hemoffilia Cymru) - Sam Jones - Lucy O'Brien - Marcus Lewis - Sue Sparkes - Meinir Gooch - Rose Richards - Tony Lane - Michael O'Connell - Helen West (Julie Morgan AS) - Rhian Davies - Eleri Morgan - Tony Summers - Gill Purnell |
Ymddiheuriadau: - Darren Millar AS - Mark Isherwood AS - Michael Imperato |
Rhun ap Iorwerth AS:
· Agorodd y cyfarfod.
· Eglurodd fod Michael Imperato yn rhedeg yn hwyr ac y byddai’n ymuno yn nes ymlaen.
· Trosglwyddodd yr awenau i Lynne Kelly er mwyn iddi allu rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.
*Cafwyd rhai trafferthion â’r cyfleuster cyfieithu ar y pryd*
Lynne Kelly:
· Dechreuodd drwy fynd drwy’r prif argymhellion a wnaed gan Syr Brian Langstaff yn ei ail adroddiad interim.
· Trafododd yr adroddiad terfynol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn yr hydref, a’r hyn sy’n rhaid ei wneud cyn hynny – yn bennaf, parhau i ymchwilio i wahanol ffyrdd o roi pwysau ar Lywodraeth y DU i dderbyn yr argymhellion.
· Trafododd yr adroddiad gan Syr Robert Francis a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, gan nodi na chymerodd Llywodraeth y DU unrhyw gamau gweithredu mewn ymateb i’r adroddiad hwnnw.
· Trafododd ddatganiad Jeremy Quinn AS, y Tâl-feistr Cyffredinol, ar 19.4.23, pan soniodd fod y Llywodraeth yn gweithio ar y materion hyn ‘yn gyflym’.
· Anogodd bawb i barhau i gysylltu â’i Aelod Seneddol lleol.
· Mynegodd deimladau o rwystredigaeth fod Sue Gray, y gwas sifil blaenllaw yn y maes hwn, wedi gadael ei swydd yn ddiweddar, o gofio y gallai hyn arwain at oedi pellach. Hefyd, nododd fod angen i gyfarfodydd y Grŵp Hollbleidiol ddechrau arwain at fwy o gamau gweithredu yn cael eu cymryd.
· Rhoddodd wybod ei bod hi wedi cyfarfod â David TC Davies AS yn ddiweddar yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Seneddol lleol, nid fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
· Yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar y Grŵp Hollbleidiol, cafwyd cytundeb â’r argymhellion yn adroddiad Syr Brian Langstaff, a nodwyd mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y materion hyn oherwydd bod y digwyddiadau dan sylw wedi digwydd cyn datganoli.
· Mynegwyd pryderon ynghylch rôl Peter Bottomley fel cadeirydd y grŵp oherwydd y gwrthdaro buddiannau posibl o gofio bod ei wraig - Virginia Bottomley - wedi gwasanaethu fel Gweinidog Iechyd yn ystod cyfnod y digwyddiadau.
Rhun ap Iorwerth AS:
· Cytunodd y gallai fod gwrthdaro buddiannau posibl o ran rôl Peter Bottomley fel cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol.
· Awgrymodd ddau bwynt gweithredu:
o ysgrifennu fel grŵp at bob Aelod Seneddol; a
o threfnu cyfarfod ar y cyd rhwng y Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd a’r Grŵp Hollbleidiol.
· Gofynnodd am unrhyw sylwadau gan aelodau’r grŵp.
Hefin David AS:
· Pwysleisiodd yr angen i nodi pwyntiau gweithredu penodol erbyn diwedd y drafodaeth hon.
Rhun ap Iorwerth AS:
· Awgrymodd y dylid ysgrifennu at Jeremy Hunt - *cytunodd y grŵp*
Sue Sparks:
· Eglurodd ei bod yn bresennol yn y cyfarfod o dan sylw a bod ganddi gwestiynau ychwanegol i'r Tâl-feistr Cyffredinol ynghylch beth yn union sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Llywodraeth y DU i weithredu'r argymhellion hyn.
· Mynegodd ei rhwystredigaeth ei bod wedi methu â chael ateb gan ei Haelod Seneddol. *Aelodau eraill o’r grŵp sydd wedi cael yr un broblem yn rhannu’r teimlad o rwystredigaeth*
Lynne Kelly:
· Trafododd y syniad o gael templed e-bost, ond ychwanegodd fod tystiolaeth o'r gorffennol yn profi eu bod fel arfer yn cael eu hanwybyddu.
· Dywedodd fod Andrew RT Davies AS wedi ysgrifennu at Jeremy Quinn ynghylch rhai o’r prif bryderon sydd wedi’u mynegi, ond nid oedd wedi cael ymateb eto.
Hefin David AS
· Ailgyflwynodd y syniad o gynnal cyfarfod ar y cyd.
Lynne Kelly:
· Yn gefnogol o’r syniad, ond nododd fod cyfarfodydd o’r fath wedi’u trefnu yn y gorffennol ond eu bod heb ddigwydd.
Hefin David AS:
· Awgrymodd y gallai cynnal y cyfarfod ar-lein helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan.
· Cytunodd â’r pwynt a wnaed yn gynharach ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl o ran rôl Peter Bottomley.
· Awgrymodd y dylid siarad â Jo Stevens AS a Jessica Morden AS i drafod cynnal cyfarfod ar y cyd, ac y dylai’r cais hwn ddod oddi wrth Rhun ac ef ei hun.
Sue Sparks:
· Pwysleisiodd yr angen i glywed gan y gwrthbleidiau.
Hefin David AS:
· Ymrwymodd i ysgrifennu at y Gweinidog cysgodol ynghylch safbwynt Llafur ar yr argymhellion a wnaed.
Rhun ap Iorwerth AS:
· Tynnodd sylw at broblemau cyfansoddiadol posibl sy’n gysylltiedig â threfnu cyfarfod ar y cyd, ond ychwanegodd fod datrysiadau amgen yn siŵr o fod ar gael.
· Gofynnodd a oedd pawb wedi llwyddo i gael cyfarfod â'i Aelod Seneddol.
Rose Richards:
· Nododd fod yr ymchwiliad wedi bod yn llafurus ac wedi cymryd llawer o amser, felly dim ond nawr maen nhw wedi dod o hyd i'r egni i gymryd y cam hwnnw.
Lynne Kelly:
· Nododd ei bod wedi cael cyfarfod â David Jones AS ddoe (yn anfoddog), sydd â pherthynas dda â Jeremy Quinn.
· Gwahoddodd unrhyw un sy'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arno i drefnu cyfarfod â'i Aelod Seneddol i gysylltu â hi.
Meinir:
· Mynegodd ei theimladau o rwystredigaeth am fethu â chael ymateb gan Alex Davies-Jones AS.
· Eglurodd fod llawer o bobl yn y gymuned yn wynebu’r un broblem.
Lucy O'Brien:
· Rhannodd y pryder a fynegwyd mewn erthygl yn y Financial Times a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi y bydd yr arian a ddefnyddir i dalu iawndal i ddioddefwyr yn golygu toriadau i wasanaethau cyhoeddus, gan awgrymu fod hyn yn ymgais i ddylanwadu ar farn y cyhoedd.
Lynne Kelly:
· Pwysleisiodd yr angen i ddal ati, gan nodi faint o gynnydd sydd wedi’i wneud ers y camau cychwynnol.
Rhun ap Iorwerth AS:
· Awgrymodd y dylid ceisio dwyn sylw’r wasg at y materion hyn ac ailadroddodd y byddant yn llwyddo i gyflawni eu nodau.
Lynne Kelly:
· Dywedodd ei bod yn rhannu’r pryderon ynghylch diffyg rhyngweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
· Hefyd, tynnodd sylw at wrthdaro buddiannau posibl arall o ran rôl Chris Wormald KCB oherwydd bod ei dad yn gysylltiedig â'r sector iechyd yn ystod cyfnod y digwyddiad.
Rhun ap Iorwerth AS:
· Daeth â’r cyfarfod i ben drwy bwysleisio’r pwyntiau gweithredu allweddol:
§ Ysgrifennu at Jeremy Hunt fel grŵp;
§ Hefin David AS i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog cysgodol;
§ cysylltu â chadeiryddion y Grŵp Hollbleidiol yn San Steffan i drefnu cyfarfod ar y cyd; ac
§ ystyried ffyrdd effeithiol o gyfleu’r stori hon yn y wasg.
*Diwedd y cyfarfod*
Dyddiad y cyfarfod nesaf: I’w gadarnhau.